Abmdanom ni
Mae hwn yn gyfle pendant i lunio pennod nesaf yr Ymddiriedolaeth.
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ym 1994, ac mae’n un o 12 sefydliad iechyd statudol yng Nghymru. Prif bwrpas yr Ymddiriedolaeth yw darparu gwasanaethau gwaed a chanser arbenigol i bobl Cymru. Rydym hefyd yn darparu nifer o wasanaethau eraill ar ran y GIG yng Nghymru fel cynhaliwr.
Gwasanaeth Canser Felindre
Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn darparu gwasanaethau canser arbenigol ar gyfer Cymru (yn y de-ddwyrain gan mwyaf) gan ddefnyddio model prif ganolfan a lloerennau ac yn darparu canolfan driniaeth arbenigol, addysgu, ymchwil a datblygu ar gyfer oncoleg nad yw’n llawfeddygol. Rydym yn trin cleifion â chemotherapi, Triniaethau Gwrth-ganser Systemig (SACTs), radiotherapi a thriniaethau cysylltiedig, ynghyd â gofalu am gleifion ag anghenion gofal arbenigol, acíwt a lliniarol.
Gwasanaeth Gwaed Cymru
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn wasanaeth cenedlaethol sy’n chwarae rhan sylfaenol wrth ddarparu gofal iechyd. Mae’n gweithio i sicrhau bod gwaed y rhoddwr yn cael ei drawsnewid yn gyfansoddion gwaed diogel ac effeithiol, sy’n caniatáu i GIG Cymru wella ansawdd bywyd ac achub bywydau miloedd lawer o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Rydym yn darparu gwasanaeth sgrinio cyn-geni i sawl ysbyty ac yn cynnig gwasanaethau labordai arbenigol i’r holl ysbytai sy’n gwsmeriaid i ni er mwyn cynorthwyo gydag ymchwilio i broblemau serolegol cymhleth. Mae Labordy Trawsblannu ac Imiwnogenetig Cymru yn rhan o Wasanaeth Gwaed Cymru ac yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i ddarparwyr lleol Gwasanaethau Trawsblannu Arennol a Bôn-gelloedd. Mae hefyd yn cynnal Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, sef panel cenedlaethol o roddwyr bôn-gelloedd gwaed posibl, nad ydynt yn perthyn.
Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn darparu gwasanaethau drwy ei gwasanaethau a’i rhaglenni a gynhelir – y Bartneriaeth Cydwasanaethau, a Technoleg Iechyd Cymru (HTW) a Therapïau Datblygedig Cymru.
Cydwasanaethau GIG Cymru (Cydwasanaethau)
Rhoddwyd y cyfrifoldeb statudol i’r Ymddiriedolaeth reoli a darparu Cydwasanaethau yn 2012, gan gefnogi 12 corff statudol GIG Cymru trwy ddarparu ystod gynhwysfawr o swyddogaethau cymorth, a ddosberthir yn wasanaethau technegol, gweinyddol a phroffesiynol. Mae’r tîm sy’n cyflawni’r rhain yn cael eu cyflogi gan yr Ymddiriedolaeth, ac mae Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Felindre (a elwir hefyd yn Bwyllgor y Bartneriaeth Cydwasanaethau) yn dwyn ynghyd bartneriaeth y sefydliadau statudol sy’n comisiynu’r gwasanaethau hyn.
Technoleg Iechyd Cymru
Sefydlwyd Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn 2017 gan Lywodraeth Cymru. Fel y corff cynnal, mae’r Ymddiriedolaeth yn derbyn cyllid grant i ddarparu’r gwasanaethau HTW o dan y ‘Rhaglen Effeithlonrwydd trwy Dechnoleg’. Sefydlwyd Technoleg Iechyd Cymru i hwyluso mabwysiadu technolegau iechyd clinigol a chost-effeithiol yng Nghymru mewn modd amserol, gan weithio gyda GIG Cymru, ond yn annibynnol arno. Mae ei gylch gwaith yn cwmpasu’r holl dechnolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau.
Therapïau Datblygedig Cymru
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflogi tîm i gyflwyno Rhaglen Therapïau Datblygedig Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Ynghyd â’r rhaglenni Genomeg, Patholeg a Delweddu, mae’n rhan annatod o bortffolio Meddygaeth Fanwl Cymru.
