Gwasanaeth Gwaed Cymru
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn chwarae rhan hanfodol mewn rhoi llinell fywyd i filoedd o bobl ar draws Cymru yn eu cyfnod o angen mwyaf.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn chwarae rhan hanfodol mewn rhoi llinell fywyd i filoedd o bobl ar draws Cymru yn eu cyfnod o angen mwyaf.
Rydym hefyd ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesi blaengar.
Mae ein hymrwymiad i ymchwil o ansawdd uchel yn ymestyn ar draws Cymru a thu hwnt, gan gefnogi ein hymchwilwyr a’n cydweithwyr ein hunain i ddarganfod triniaethau newydd a gwell ac i wella gwasanaethau gofal iechyd.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi lansio ei strategaeth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (RD&I) newydd, gan atgyfnerthu ei ymrwymiad i wella gofal iechyd, datblygu gwasanaethau gwaed a thrawsblaniadau, ac yn y pen draw wella bywydau rhoddwyr a chleifion ledled Cymru. Mae’r strategaeth yn amlinellu sut y bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer gweithgareddau RD&I, gan sicrhau bod Cymru’n parhau i fod ar flaen y gad o ran ymchwil arloesol a gwelliannau gofal iechyd. Cenhadaeth allweddol y strategaeth yw gwella profiadau cleifion a rhoddwyr, nod sy’n parhau i fod yn ganolog i weledigaeth y sefydliad.
Mae’r strategaeth newydd yn canolbwyntio ar wreiddio ymchwil ac arloesi ar draws pob maes o Wasanaeth Gwaed Cymru.
Trwy feithrin ymchwil o safon fyd-eang a chydweithio â Byrddau Iechyd, gwasanaethau trallwyso, rhoddwyr a phartneriaid allweddol eraill, ein nod yw cynrychioli Cymru ar lwyfan byd-eang ym maes gwyddor trallwyso a thrawsblannu.
Bydd ein partneriaethau parhaus yn ysgogi datblygiadau ystyrlon mewn gofal cleifion a rhoddwyr.
Rwy’n falch o arwain Gwasanaeth Gwaed Cymru wrth gyflawni’r strategaeth uchelgeisiol hon. Bydd RD&I yn chwarae rhan hanfodol wrth gryfhau gwasanaethau, gwella canlyniadau cleifion, a llunio dyfodol meddygaeth trallwyso a thrawsblannu yng Nghymru.
Dr Edwin Massey, Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaeth Gwaed Cymru
Mae’r strategaeth wedi’i strwythuro o amgylch saith cenhadaeth allweddol, pob un wedi’i chynllunio i gefnogi amcanion y sefydliad a sicrhau ymagwedd â ffocws tuag at weithgareddau RD&I. Mae’r strategaeth newydd hon yn gam beiddgar ymlaen i RD&I o fewn Gwasanaeth Gwaed Cymru, gan ailddatgan ei ymrwymiad i arloesedd a rhagoriaeth mewn gofal cleifion.
Ynghylch y Gwasanaeth
Mae’r Gwasanaeth Gwaed yn darparu gwasanaeth gwaed diogel, hygyrch ac effeithiol ar gyfer:
- rhoddwyr – darparu gwasanaeth casglu gwaed y gall rhoddwyr a chefnogwyr fod yn falch ohono
- clefion – sicrhau cyflenwad diogel a chyson o waed ar draws Cymru
- y GIG – darparu costau is i ysbytai drwy weithredu cadwyn gyflenwad wedi ei integreiddio a chynllunio gwell o’r dechrau i’r diwedd.

