Ymunwch â’n tîm
Mae hwn yn foment eithriadol i ymuno ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Croeso gan Sara Moseley, Cadeirydd
Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â ni yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Mae gan Felindre safle unigryw ac arwyddocaol yn genedlaethol o fewn GIG Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau canser arbenigol ar gyfer De Ddwyrain Cymru ochr yn ochr â gwasanaethau gwaed, trawsblannu, labordy ac imiwnogeneteg i gleifion ac ysbytai ar draws Cymru gyfan. Mae ein gwaith yn gymhleth, yn feirniadol ac yn ystyrlon iawn; ac yn cael ei gefnogi gan weithlu medrus ac ymroddedig iawn.
Rydym mewn cyfnod hollbwysig ar gyfer ein Hymddiriedolaeth, ein cleifion a’n rhoddwyr.
Yn 2027, byddwn yn symud i Ganolfan Ganser Felindre newydd, y datblygiad seilwaith iechyd mwyaf yng Nghymru ac un o’r rhai mwyaf gwyrdd yn unrhyw le. Rydym yng nghanol moderneiddio ein gwasanaeth gwaed a thrawsblaniadau perfformiad uchel, ac yn adeiladu gwydnwch ac yn datgloi potensial enfawr ar gyfer therapïau newydd. Mae hyn i gyd yng nghyd-destun yr angen cynyddol am ein gwasanaethau a’n harbenigedd, a phwysau sylweddol ar y GIG.
Mae ein strategaeth, Cyrchfan 2033, yn amlinellu amcanion yr Ymddiriedolaeth, a sut rydym yn bwriadu cyflawni ei hamcanion. Mae’n gosod uchelgais glir: darparu gofal o ansawdd uchel, cynaliadwy ac sy’n canolbwyntio ar y person; bod yn esiampl ar gyfer ymchwil, arloesedd a datblygiad digidol; a rhoi llesiant ac ymglymiad ein staff wrth wraidd popeth a wnawn.
Wrth i ni symud tuag at benodi Prif Weithredwr parhaol, rydym hefyd yn canolbwyntio ar lunio, sefydlogi a chryfhau ein tîm Gweithredol. Mae hwn yn gyfnod trawsnewidiol hollbwysig i’r sefydliad, ac rydym yn ceisio adeiladu Bwrdd cydlynol, credadwy sy’n perfformio’n uchel, sydd yn gallu darparu sefydlogrwydd a momentwm. Ein huchelgais yw creu tîm arweinyddiaeth sy’n unedig o ran pwrpas, sy’n hyderus mewn delio gyda cymhlethdodau, ac sy’n ymrwymedig i gyflawni’r uchelgeisiau a nodir yn ein strategaeth, Cyrchfan 2033 .
Felly, rydym yn chwilio am Gyfarwyddwyr Gweithredol sydd nid yn unig yn meddu ar arbenigedd a phrofiad proffesiynol dwfn o weithio mewn lleoliadau sefydliadol cymhleth ond sydd hefyd, gyda sgiliau arweinyddiaeth dilys, sydd yn cael eu harwain gan werthoedd. Rydym angen unigolion sydd yn gallu arwain trwy newid gydag eglurder a thosturi; sy’n gallu ymgysylltu â’n pobl a’u hysbrydoli; ac a fydd yn gweithio ar y cyd ar draws ffiniau sefydliadol a systemau i gyflawni gwelliant cynaliadwy. Bydd hygrededd, uniondeb a’r gallu i feithrin ymddiriedaeth – gyda chydweithwyr, partneriaid a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu – yn hanfodol.
Mae’r rolau hyn yn cynrychioli cyfle eithriadol i ymuno â Felindre ar adeg hollbwysig ar ei thaith. Byddwch yn chwarae rhan ganolog mewn llunio cyfeiriad ein sefydliad yn y dyfodol, ac yn cefnogi ein staff drwy newid ac yn helpu i wireddu ein huchelgais i ddarparu gofal rhagorol sy’n canolbwyntio ar y person a chanlyniadau gwell i gleifion a rhoddwyr ar draws Cymru.
Os ydych chi yn cael eich cymell gan y cyfle i wneud effaith ystyrlon ac i gyfrannu at arwain sefydliad o bwys cenedlaethol, rwy’n eich annog yn gynnes i ystyried ymuno â ni.
Sara Moseley
Cadeirydd
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
