Gwasanaeth Canser Felindre newydd
Bydd ein canolfan newydd yn sicrhau canlyniadau gwell trwy driniaeth canser o’r radd flaenaf, gallu diagnostig gwell a mynediad gwell at arloesedd, hyfforddiant ac ymchwil.
Ers bron 70 mlynedd, mae Canolfan Ganser Felindre’n darparu triniaeth canser arbenigol hanfodol a chymorth i bobl ledled de Cymru.
Rydym yn falch o’n hanes, ond rydym yn esblygu’n barhaus i ateb y galw cynyddol am wasanaethau canser. Mae mwy a mwy ohonom yn cael diagnosis o ganser, ac mae pobl yn byw’n hirach gyda chanser.
Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni addasu i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i ddarparu’r gofal o’r safon uchaf y mae Felindre yn enwog amdano. Mae ein staff ymroddedig yn trin ac yn gofalu am filoedd o gleifion o bob rhan o dde Cymru bob blwyddyn, ond nid oes gan y ganolfan ganser bresennol y cyfleusterau na’r lle sydd eu hangen i ddiwallu anghenion ein cleifion a’n staff yn y dyfodol.
Mae’r gwaith o adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd bellach ar y gweill, a hwn yw un o’r prosiectau mwyaf yng Nghymru ers degawdau.
Bydd y ganolfan newydd yn sicrhau canlyniadau gwell drwy driniaeth canser o’r radd flaenaf, gwell cyfleusterau diagnostig, a gwell mynediad at arloesedd, hyfforddiant ac ymchwil.
Mae pob agwedd ar y ganolfan newydd wedi’i llunio o amgylch anghenion cleifion, staff, teuluoedd a gofalwyr. O ddod o hyd i’r cyrchfan yn haws a chyfleusterau parcio gwell, i fannau therapiwtig ac ardaloedd pwrpasol i deuluoedd, bydd yr adeilad newydd yn gwella cysur, urddas a’r profiad o ofal yn gyffredinol. Hwn fydd un o’r ysbytai mwyaf cynaliadwy yn y DU, gan ddarparu gofal canser blaenllaw i’n cleifion ac amgylchedd gwell i’n staff ymroddedig.
Mae’r ganolfan newydd wedi’i dylunio i dyfu ac addasu. Gyda mannau clinigol safonol a hyblyg, seilwaith modern a defnydd mwy effeithlon o ynni gwyrdd, bydd y ganolfan newydd yn diwallu anghenion newidiol o ran gofal canser ac yn sicrhau gwerth hirdymor i’n cleifion, i’n staff ac i’r GIG.
O’r cam dylunio hyd at weithredu, mae’r ganolfan newydd yn arwain y ffordd ym maes gofal iechyd cynaliadwy. Dyma ysbyty hollol drydanol cyntaf y DU; mae’n defnyddio ynni adnewyddadwy ac wedi’i ddylunio i leihau’r effaith amgylcheddol gymaint â phosibl, wrth barhau i ddarparu’r gofal canser o’r radd flaenaf y mae Felindre yn enwog amdano. Mae ei nodweddion cynaliadwy yn cefnogi uchelgais ehangach Cymru i fod yn sero net ac yn wydn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae ein staff ymroddedig yn gweithio gydag Acorn, y consortiwm a ddewiswyd i adeiladu’r ganolfan ganser newydd, er mwyn creu cyfleuster a fydd yn gwasanaethu cenedlaethau’r dyfodol am ddegawdau i ddod. Sacyr UK yw’r cwmni adeiladu sy’n adeiladu’r ganolfan ganser.
Mae ein cartref newydd yn hanfodol i ddiogelu’r ddarpariaeth o driniaeth a gofal hanfodol i 1.5 miliwn o bobl de Cymru, ac mae’n hanfodol hefyd er mwyn cadw i fyny â’r galw cynyddol.
Yn fwy na dim ond adeilad newydd, rydym yn trawsnewid ein gofal ar draws y system gyfan. Yn ogystal â Chanolfan Ganser Felindre newydd, rydym hefyd wedi agor Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall.
Mae’r gwaith o adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd ar y gweill, ac mae disgwyl iddi agor yng ngwanwyn 2027.


