Gweledigaeth a gwerthoedd
Ein nod yw gwella bywydau. Ein gweledigaeth yw gwneud hyn trwy ofal rhagorol, dysgu ysbrydoledig a phobl iachach.
Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth, rydym wedi datblygu amcanion strategol sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i’r egwyddorion arweiniol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phwyslais ar yr hirdymor, trwy integreiddio, cydweithio a phartneriaeth yn ein gwaith hollbwysig.
Ein nod yw bod yn gyflogwr o ddewis, gan ddatblygu gweithlu medrus, cynaliadwy, iach ac ymgysylltiedig. Byddwn yn anelu at ragoriaeth ddigidol, gan greu gwasanaethau gwell trwy gysylltu cleifion, rhoddwyr a phartneriaid.
Byddwn yn mesur ein cynnydd trwy ein gofal, ein dysgu, ein tîm, a’n cyfraniad ehangach at ein cymunedau a’n gwlad, gan feincnodi â’n cymheiriaid.
Ein gwerthoedd
Mae gwerthoedd cyffredin ein Hymddiriedolaeth yn crynhoi’r hyn sy’n bwysig i ni. Fe’u datblygwyd drwy broses o ymgynghori eang â staff ac aelodau’r cyhoedd ac maent yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu a datblygu ein gwasanaethau.
Ein Strategaeth
Cymeradwywyd ein strategaeth, Cyrchfan 2033, gan Fwrdd yr Ymddiriedolaeth yn 2023. Mae ein nodau strategol yn datgan, erbyn 2033, y byddwn yn cael ein cydnabod fel a ganlyn:
1. Rhagorol ar gyfer ansawdd, diogelwch a phrofiad.
2. Darparwr gwasanaethau clinigol eithriadol enwog yn rhyngwladol sydd bob amser yn bodloni disgwyliadau ac yn rhagori arnynt fel mater o drefn.
3. Sefydliad disglair ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi yn y meysydd blaenoriaeth a ddatganwyd gennym.
4. Ymddiriedolaeth Brifysgol sefydledig sy’n darparu gwybodaeth a dysgu gwerthfawr iawn i bawb.
5. Sefydliad cynaliadwy sy’n chwarae ei ran wrth greu dyfodol gwell i bobl ledled y byd.
